Grŵp gwirfoddol yw Cyfeillion Parc Cefn Onn sy’n anelu at gynorthwyo yn y gwaith o ofalu am yr adnodd naturiol hyfryd a hanesyddol hwn yng Nghaerdydd sy’n dwyn yr enw Parc Gwledig Parc Cefn Onn. Ni wireddir uchelgeisiau Grŵp y Cyfeillion ond trwy’r pŵer a galluoedd aelodaeth gref sy’n adlewyrchu’r ymroddiad a chefnogaeth pobl yr ardal. Ar hyn o bryd, yr ydyn ni ynglŵm wrth:
- Ceisio am grantiau er ymgymryd ac amrywiaeth o brosiectau
- Gwaith caib a rhaw yn y Parc ar ein rhaglen Diwrnodau Gwaith
- Cynorthwyo Adran Parciau Cyngor Caerdydd i ddatblygu Cynllun Rheoli’r Parc
- Hybu’r grŵp ar ein stondin mewn gywliau ac ati
- Dosbarthu taflenni o gwmpas ardal Gogledd Caerdydd
- Casglu ynghŷd cofnod o’r planhigion a choed prin yn y Parc
- Cofnodi’r anifeiliaid a welir yn y Parc
- Datblygu hysbysfyrddau gwybodaeth
- Cyfieithu ein llenyddiaeth i’r Gymraeg
- Dod i fyny gyda syniadau i wella’r Parc
Rheolir y grŵp o ddydd i ddydd gan bwyllgor wedi’i ethol gan yr aelodau.
Sut medrwch chi helpu?
Y mae’r peth cyntaf a phwysicaf ydi i ddod yn aelod o’r grŵp. Dyw hyn ddim yn unig yn helpu ar ran arian (fel arfer cyfatebir ffïoedd penodedig ac amser gwirfoddol gydag arian grant cyfatebol), ond y mae hi hefyd yn dangos lefel y gefnogaeth i’r Grŵp yn y gymuned leol. Cyn hir, rydyn ni’n gobeithio cael darparu ffurflen aelodaeth arlein ond ar hyn o bryd a wnewch gysylltu â ni gan ddefnyddio un o’r ffyrdd a geir ar ein tudalen gysylltu.
Cewch helpu hefyd drwy gymryd rhan yn ein gweithgareddau. Edrychwch ar ein tudalen gweithgareddau am fanylion.
Pe hoffech gynorthwyo yn un o’r ffyrdd eraill a restrir uchod, neu hyd yn oed mewn ffordd newydd nad ydyn ni ddim wedi meddwl amdani eto, ewch i’n tudalen gysylltu i gysylltu â ni a rhoi inni wybod beth hoffech chi ei wneud.