Gosod llwybr newydd

Y mae cerddwyr yn y Parc yn y misoedd diwethaf wedi gweld y gwaith sy’n cael ei gwneud i wella’r prif lwybr i fyny canol y Parc.

Y mae hi wedi golygu peth anhwylustod ar gyfer defnyddwyr y Parc, yn dilyn dargyfeiriadau ac ati, ond mae’r tywydd wedi bod yn weddol garedig i’r prif gontractwr wrth iddo osod y tarmac sylfaenol (Griffith Davies, Gwaelod y Garth) a’r contractwyr arwynebeddau arbenigol (ThorTech Cyf, Tredelerch, Caerdydd) a welir yma wrthi’n gosod yr haenen uchaf yn y rhan uchaf, ac y mae’r ddau wedi gwneud cynnydd da.

Gyda’r dargyfeiriadau, tâp rhwystr ac arwyddion rhybudd, glaw a baw cyffredinol y gaeaf, dail y gaeaf, peth dymchwel coed, ac yn y blaen, y mae’r Parc wedi edrych, o bosib, mewn cyflwr gwaith y gaeaf hwn nag y mae wedi bod erioed! Serch hynny, y mae’r gwaith ar y llwybr wedi’i gwblhau erbyn hyn ac y mae nifer o ddefnyddwyr y Parc wedi dweud wrth y gweithwyr eu hunain yn ogystal ag wrth Grŵp y Cyfeillion ei hunain sut jobyn da sydd wedi’i wneud a faint o welliant y mae o.

Y mae’r llwybr newydd ynghŷd â chlirio’r prysgwydd gan Adran Parciau Cyngor Caerdydd a Diwrnodau rheolaidd Grŵp y Cyfeillion wedi agor y parc i fyny’n wir. Roedd cenin pedr y fynedfa’n ogoneddus ddiwedd Mawrth ac Ebrill a chyda blagur y gwanwyn ar i fyny a’r rhododendronau yn eu blodau, y mae’n adeg gwych y flwyddyn i ymweld os nad ydych chi wedi gwneud am sbel. Byddwch yn synnu gweld y gwahaniaeth.

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *