Cyhoeddi CyfCyf y Cyfeillion ar gyfer 27 Mehefin, 2011

Rhaid i’r grŵp gynnal CyfCyf yn gynnar pob haf er mwyn ethol y Pwyllgor Gweithredol, cyflwyno adroddiadau’r cadeirydd a’r trysorydd, ac yn gyffredinol i roi i’r aelodau wybod beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen a beth ydi’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Eleni, fe’i cynhelir yn Hen Ysgol Llysfaen, Llysfaen, Caerdydd, o 7:00 tan 8:00 y.h. ar ddydd Llun 27ain Mehefin. Y mae Rosie James (Swyddog Tirwedd Adran Parciau Cyngor Caerdydd) ac Alec Stewart (Ceidwad Parc Cefn Onn) ill dau wedi cytuno’n garedig i roi cyflwyniadau gwestai ar Gynllun Cyngor Caerdydd a gweithgareddau’r Ceidwad y naill a’r llall.

Y mae’r CyfCyf hwn yn dynodi diwedd blwyddyn gyntaf Grŵp y Cyfeillion a, heblaw am ffurfioldebau cyflym arferol unrhyw GyfCyf, bydd hi’n gyfle da i aelodau glywed beth rydyn ni wedi bod wrthi’n gwneud eleni, i’ch Pwyllgor amlinelli ein dyheadau ar gyfer y flwyddyn a ddaw, ac hefyd i glywed gan ein dau siaradwr gwadd o Adran Parciau Cyngor Caerdydd. Y mae pob un o’r Pwyllgor Gweithredol presennol wedi cytuno i sefyll eto felly peidiwch â phoeni am beryglon arferol Cyfarfodydd Cyffredinol o gael eich tynnu i mewn i wneud rhywbeth os ydych chi’n dangos eich wyneb! Fel aelodau mae gennych chi bob hawl i ddylanwadu ar gyfeiriad y grŵp ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich cyfarfod os ydych chi’n gallu dod

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *