Gweithgareddau

Workdays

Ar hyn o bryd mae gennym ni raglen lawn wedi’i chynllunio o ddiwrnodau gwaith: un Sul y mis, 14:00 i 16:00. Gweler ein tudalen Diwrnodau Gwaith am amserlen lawn.

Bydd y math o waith dyn ni’n ymgymryd ag ef yn amrywio drwy’r flwyddyn ac mae wedi’i arwain gan Geidwad rhadlon y Parc. Mae’n cynnwys gorchwylion at bob oed a gallu.

  • Plannu bylbiau
  • Prysglwyno
  • Clirio mieri
  • Peintio meinciau
  • Clirio llynoedd
  • Adfer llwybrau
  • Codi sbwriel
  • Creu cynefinoedd bywyd gwyllt

Croesewir plant ond rhaid i oedolyn eu goruchwylio.

Gwisgwch dillad a sgidiau addas, da chi. Darperir menyg ac offer/cyfarpar gan Grŵp y Cyfeillion a Cheidwad y Parc.

Dyn ni’n cyfarfod yn y maes parcio toc cyn 14:00

Dosbarthu Taflenni

O dro i dro dyn ni’n cynhyrchu taflenni a’u dosbarthu i gartrefi yn ardal Gogledd Caerdydd. Pan fydd manylion gennym ni ynghŷlch ymgyrch taflenni, byddwn yn eu postio ar y Dudalen Newyddion.