Newyddion Parc Cefn Onn

Y mae’r rhan yma o’r wefan wedi’i neilltuo i’ch hysbysu o’r newyddion i gyd sy’n berthnasol i Barc Cefn Onn. Ymwelwch yma’n gyson er mwyn dysgu am y gweithgareddau diweddaraf a’r rhai sydd ar y gweill.

Posted in Uncategorized, Uncategorized, Uncategorized, Uncategorized, Uncategorized, Uncategorized, Uncategorized, Uncategorized, Uncategorized, Uncategorized | Leave a comment

Hen orsaf trenau Cefn Onn, Caerdydd

Cefn Onn Halt Platfform 2

Hanes diddorol iawn gorsaf trenau Cefn Onn sydd i’w chael ar wefan urban75.

Dim ond y Parc yr oedd yr orsaf yn ei wasanaethu ac mi gafodd ei chau ym 1986 gydag agoriad gorsaf Llysfaen/Thornhill 500m i lawr y cledrau. Y mae’r erthygl yn cynnwys llawer o ffotos da. Diolch i Cefn Onn Halt hen bontMike Slocombe a bostiodd yr erthygl yn 2004.

Leave a comment

Cyhoeddi CyfCyf y Cyfeillion ar gyfer 27 Mehefin, 2011

Rhaid i’r grŵp gynnal CyfCyf yn gynnar pob haf er mwyn ethol y Pwyllgor Gweithredol, cyflwyno adroddiadau’r cadeirydd a’r trysorydd, ac yn gyffredinol i roi i’r aelodau wybod beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen a beth ydi’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Eleni, fe’i cynhelir yn Hen Ysgol Llysfaen, Llysfaen, Caerdydd, o 7:00 tan 8:00 y.h. ar ddydd Llun 27ain Mehefin. Y mae Rosie James (Swyddog Tirwedd Adran Parciau Cyngor Caerdydd) ac Alec Stewart (Ceidwad Parc Cefn Onn) ill dau wedi cytuno’n garedig i roi cyflwyniadau gwestai ar Gynllun Cyngor Caerdydd a gweithgareddau’r Ceidwad y naill a’r llall.

Y mae’r CyfCyf hwn yn dynodi diwedd blwyddyn gyntaf Grŵp y Cyfeillion a, heblaw am ffurfioldebau cyflym arferol unrhyw GyfCyf, bydd hi’n gyfle da i aelodau glywed beth rydyn ni wedi bod wrthi’n gwneud eleni, i’ch Pwyllgor amlinelli ein dyheadau ar gyfer y flwyddyn a ddaw, ac hefyd i glywed gan ein dau siaradwr gwadd o Adran Parciau Cyngor Caerdydd. Y mae pob un o’r Pwyllgor Gweithredol presennol wedi cytuno i sefyll eto felly peidiwch â phoeni am beryglon arferol Cyfarfodydd Cyffredinol o gael eich tynnu i mewn i wneud rhywbeth os ydych chi’n dangos eich wyneb! Fel aelodau mae gennych chi bob hawl i ddylanwadu ar gyfeiriad y grŵp ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich cyfarfod os ydych chi’n gallu dod

Leave a comment

Gosod llwybr newydd

Y mae cerddwyr yn y Parc yn y misoedd diwethaf wedi gweld y gwaith sy’n cael ei gwneud i wella’r prif lwybr i fyny canol y Parc.

Y mae hi wedi golygu peth anhwylustod ar gyfer defnyddwyr y Parc, yn dilyn dargyfeiriadau ac ati, ond mae’r tywydd wedi bod yn weddol garedig i’r prif gontractwr wrth iddo osod y tarmac sylfaenol (Griffith Davies, Gwaelod y Garth) a’r contractwyr arwynebeddau arbenigol (ThorTech Cyf, Tredelerch, Caerdydd) a welir yma wrthi’n gosod yr haenen uchaf yn y rhan uchaf, ac y mae’r ddau wedi gwneud cynnydd da.

Gyda’r dargyfeiriadau, tâp rhwystr ac arwyddion rhybudd, glaw a baw cyffredinol y gaeaf, dail y gaeaf, peth dymchwel coed, ac yn y blaen, y mae’r Parc wedi edrych, o bosib, mewn cyflwr gwaith y gaeaf hwn nag y mae wedi bod erioed! Serch hynny, y mae’r gwaith ar y llwybr wedi’i gwblhau erbyn hyn ac y mae nifer o ddefnyddwyr y Parc wedi dweud wrth y gweithwyr eu hunain yn ogystal ag wrth Grŵp y Cyfeillion ei hunain sut jobyn da sydd wedi’i wneud a faint o welliant y mae o.

Y mae’r llwybr newydd ynghŷd â chlirio’r prysgwydd gan Adran Parciau Cyngor Caerdydd a Diwrnodau rheolaidd Grŵp y Cyfeillion wedi agor y parc i fyny’n wir. Roedd cenin pedr y fynedfa’n ogoneddus ddiwedd Mawrth ac Ebrill a chyda blagur y gwanwyn ar i fyny a’r rhododendronau yn eu blodau, y mae’n adeg gwych y flwyddyn i ymweld os nad ydych chi wedi gwneud am sbel. Byddwch yn synnu gweld y gwahaniaeth.

Leave a comment

Cael gwared o goed sydd heb eu heisiau

Y mae Cwrs Golff Llanisien, prif gymydog y Parc, yn ystyried tynnu i lawr cwpl o goed bythwyrdd heb eu heisiau sydd ar y cwrs ei hun. Bydd eu gwaredu nhw’n adfer yr olygfa odidog o gae top y Parc, dros ddinas Caerdydd, Môr Hafren a thu hwnt, hyd at fynyddoedd y Mendips yng Ngwlad yr Haf. Y mae Ceidwaid y Parc wedi cynnig tocio’r llwyni wrth yr olygfa sydd wedi gordyfu hefyd!

Leave a comment

Gosod arwynebedd newydd i’r prif lwybr

Y mae ariannu a gafwyd gan Grŵp y Cyfeillion wedi caniatau i Gyngor Caerdydd roi arwynebedd newydd ar y prif lwybr o bwnt ger y fynedfa hyd at lyn y pysgod aur yn rhan uchaf y Parc. Y mae’r gwaith wedi dod â llawer o lanastr a pheth peiriannau yn ei sgîl, felly y mae’r llwybrau wedi’u dargyfeirio dros dro.

Leave a comment

Plannu Bylbiau

Ar 6ed Chwefror, 2011, treuliodd tua deg aelod o Gr&#0373p y Cyfeillion brynhawn oer ond heulog y Diwrnod Gwaith wrthi’n plannu dros fil o fylbiau wrth ochr y prif lwybr wrth iddo fynd i mewn i ran isaf y parc. Am fanylion am Ddiwrnodau Gwaith, gweler ein tudalen Gweithgareddau

Leave a comment

Tanc Septig Newydd

Tanc septig newydd

Tanc Septig Newdd

Yn Rhagfyr 2010, gosododd Cyngor Caerdydd tanc septig newydd o dan y maes parcio, er mwyn sicrhau y byddai’r tai bach yn parhau i weithio.

Leave a comment

Coeden iasoer

Photograffwyd y goeden iasoer hon a welwyd ar daith gerdded ym Mharc Cefn Onn, gan virual_tony2000, ac mae wedi’i bostio ar fflicr.

Leave a comment

Afiechyd Marwolaeth Sydyn Coed Derw

Dyma’r enw a rhoddir ar afiechyd sydd wedi’i achosi gan grŵp ffwng o’r enw Phytophthora. Nodwyd yn gyntaf mewn coed derw yng Nghaliffornia yn y 90au, ond y mae’n gyffredin yn awr ledled y byd, gan effeithio ar ystod eang o blanhigion. Wedi’i ddarganfod ym Mharc Cefn Onn yn gyntaf yn 2004, y mae wedi effeithio ar fwy na thri deg o blanhigion ar draws y parc erbyn hyn.

Sut y mae’n cael ei ledaenu?

Un o brif ledaenwyr yr afiechyd yn y DU ydi’r rhododendron gwyllt, R. ponticum, a’i amrywiaethau.

Cynyddiant yr Afiechyd

Arsylwir cynyddiant yr afiechyd gan Arolygwyr Iechyd Planhigion FERA, a gwaredwyd yn ddiogel â’r planhigion oedd wedi’u heffeithio er mwyn lleihau unrhyw ledaenu ymhellach, yn ôl gofynion deddfwriaeth gyfoes reoli afiechydon. Y mae’r mesurau rheoli llym a gyflwynwyd yng ngaeaf 2008/9 â’r bwriad o sicrhau y bydd yr afiechyd yn dod o dan reolaeth ac na fydd yn lledaenu i erddi lleol a pharciau eraill.

Rhaglen Waredu

Y mae rhaglen waredu pum mlynedd ar waith ar hyn o bryd er mwyn atal lledaenu’r haint i goed y parc yn ogystal â’r ardaloedd cyfagos. Bydd yr Arolygwyr Iechyd Planhigion yn dweud pan fydd yr afiechyd o dan reolaeth a phryd bydd ail-blannu’n gallu digwydd. Yn y cyfamser, darllenwch yr arwyddion sydd i’w gweld o gwmpas y parc, a gwnewch eich gorau i ddilyn eu cyfarwyddiadau.

Leave a comment